R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru i bobl ifanc sy'n chwilio am waith ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0287(ESK)
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd? OAQ(4)0274(ESK)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganllawiau Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i awdurdodau addysg lleol o ran cyllido ysgolion? OAQ(4)0269(ESK)
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen o ran disgyblion yn dychwelyd i astudio yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn? OAQ(4)0285(ESK)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo plant ag awtistiaeth yng Nghymru? OAQ(4)0270(ESK)
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer hyrwyddo pynciau STEM yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0276(ESK)
7. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am unrhyw ran a chwaraeodd i gydnabod arfer da yn y proffesiwn addysgu a gydnabyddir gan wobrau addysgu Pearson? OAQ(4)0286(EDS)
8. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i asesu pa mor dda y mae ysgolion yng Nghymru yn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol disgyblion, yn enwedig y rhai mewn gofal? OAQ(4)0282(ESK)
9. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion yng Ngogledd Cymru i godi safonau yn yr ystafell ddosbarth? OAQ(4)0278(ESK)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu ei bolisïau Cymraeg i oedolion? OAQ(4)0273(ESK)
11. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei gynnal o bwysigrwydd yr agenda Allgymorth i gysylltiadau cymunedol yn y sector Prifysgolion? OAQ(4)0272(ESK)
12. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth meithrin cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0283(ESK)
13. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Chomisiynydd y Gymraeg? OAQ(4)0275(ESK)
14. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymwneud â chynnydd tuag at gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ym maes addysg ôl-16? OAQ(4)0284(ESK)
15. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg? OAQ(4)0279(ESK)W
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1.Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae’n defnyddio ei chyllideb drafnidiaeth i gynorthwyo busnesau? OAQ(4)0277(EST)
2. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i adeiladu croesiad newydd ar draws afon Menai yn agos at Bont Britannia? OAQ(4)0265(EST)W
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth y diwydiant ynni i economi Canolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0281(EST)
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i greu swyddi ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0282(EST)
5. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran creu swyddi drwy ei rhaglen ardal fenter? OAQ(4)0271 (EST)
6. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at gyflawni'r nodau a nodir yn Gwyddoniaeth i Gymru? OAQ(4)0270(EST)
7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i fand eang i fusnesau yn Islwyn? OAQ(4)0274(EST)
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei hasesiad o’r manteision economaidd posibl i Gymru yn sgîl enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales? OAQ(4)0264(EST)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd menter yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0272(EST)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am reoleiddio gwasanaethau bysiau yng Nghymru? OAQ(4)0268(EST)
11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon? OAQ(4)0266(EST)W
12. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa bolisïau sydd gan y Gweinidog yn eu lle i feithrin technolegau sy’n dod i’r amlwg er mwyn cynorthwyo gyda’u defnydd cywir yng Nghymru? OAQ(4)0267(EST)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0276(EST)
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gyfran o gyllideb ei hadran a ddyrennir i’r agwedd ar ei phortffolio sy’n ymwneud â gwyddoniaeth? OAQ(4)0278(EST)
15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae
Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella darpariaeth band eang yng
Nghymru? OAQ(4)0280(EST)